Ynghylch yr Arall

Bu tipyn o sôn dros yr haf am broblem hiliaeth a’r Cymry. Cafodd eitemau newyddion eu darlledu yn cyflwyno dilysrwydd parhad y Gymraeg (ac felly bodolaeth y Cymry Cymraeg) fel pe bai’n bwnc trafod dilys. Paentiwyd sloganau gwrth-Gymreig ger Tudweiliog, a chafwyd y drip-drip arferol o sylwadau gwrth-Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Wedyn, ddiwedd Awst, bu paentio o fath gwahanol. Paentiodd pedwar o hogia’ gwyn eu hwynebau’n ddu, gwisgo dreadlocks ffug, ac yn lliwiau Jamaica ac i gyfeiliant cân hiliol – ‘We can’t afford condom so we have baby/ Either that or HIV’ – teithio ar hyd strydoedd Aberaeron mewn siarabáng a oedd yn cogio bod yn bobsleigh o Ffos-y-ffin.

_97595766_coolrunnings

Mae i’r arfer o dduo wyneb hanes diwylliannol cymhleth. Yn y ffilm am gymoedd y de, The Proud Valley (1940), mae’r arwr o Affro-Americanwr, Paul Robeson, yn cael ei gyflwyno fel pe bai’n debyg ei liw i’r glowyr mae parddu dros eu hwynebau ar ôl bod yn gweithio dan ddaear. Y neges yw undod rhwng pobloedd ar draws ffiniau hil. Ond mae duo wyneb er mwyn dynwared pobl ddu yn rhan o draddodiad o fychanu ac israddoli diwylliant pobl ddu. Mae’n gwneud hwyl am ben hunaniaeth pobl ddu ac yn dweud nad ydynt yn haeddu parch gan y sefydliad gwyn.

Peth peryglus yw tynnu cymhariaeth rhwng gwneud hwyl am ben iaith, a hwyl am ben hil, am fod hanes y ddau orthrwm mor wahanol. Ond mae’r delweddau a ddefnyddir i drafod iaith a hil yn gorgyffwrdd yn fynych. Ymatebodd un a ysgrifennau dan y ffug-enw eironig ‘Fluellyn’ i ymosodiadau ar y Gymraeg fel hyn yn 1910:

Your peculiar critic […] says “Anglicize yourself as quick as possible!” Personally, I would as soon […] blacklead my face.

Yn achos y difrïo ieithyddol a hiliol fel ei gilydd, mae tuedd amlwg i fychanu diwylliant arall, honni siarad ar ei ran, ac yna ei daflu o’r neilltu ar ôl i’r sioe ddod i ben.

Rhagflaenwyd y ffilm Proud Valley gan fersiwn radio a ddarlledwyd yn Chwefror 1940. Jack Jones oedd awdur sgript y fersiwn radio, a T. Rowland Hughes oedd y cyfarwyddwr. Yn nofelau Jack Jones y ceir yr ymdriniaeth helaethaf â thraddodiad y ‘minstrels’ yn llên Sasneg Cymru, ac mae nofel T. Rowland Hughes William Jones (1944) yn tystio i ddylanwad y nofelydd Eingl-Gymreig. Roedd William Jones yn un o nofelau mwyaf poblogaidd ganol y ganrif, ac mae’n cynnig golwg hoffus, os sentimental, ar gymoedd y de trwy lygaid mewnfudwr o’r gogledd. Disgrifia garnifal sydd yn ei sentimentaleiddwch i fod i adlewyrchu urddas ac undod mewn cymuned dosbarth gweithiol Cymreig, ond sy’n dibynnu ar lunio gwrthbwynt ethnig i ddifrifoldeb y frwydr ddosbarth neu genedlaethol. Gwneir hynny trwy dynnu sylw at ddifrifwch cynhenid diwylliant pobl ddu:

Goliwogiaid oedd yr aelodau [o’r criw], pob un wedi clymu ei drowsus yn dynn am ei fferau ac yn gwisgo côt fer a’i chotwm yn streipiau glas a gwyn. Am eu gyddfau yr oedd coler fawr wen a bwa anferth o ruban coch. Wynebau duon a oedd iddynt, wrth gwrs, a pheintiasai pob un gylch gwyn o amgylch ceg a llygaid. Ar eu pennau, gwallt trwchus o wlân du. Cerddent yn urddasol, a sicrwydd buddugoliaeth ym mhob cam, yr unig fand a chanddynt wisg barod.

A dyma bortread arall o fand ‘du’ yn y carnifal, yn fwy amlwg trefedigaethol y tro hwn:

Daeth y trydydd band heibio, dynion duon o ddyfnder yr Affrig, pob un yn ’sgleinio ar ôl triniaeth y brwsh blacléd. Yr oedd cylchoedd pres, a fuasai’n cynorthwyo i ddal llenni’r parlwr, yn hongian wrth eu clustiau, ac am eu gyddfau gwisgent bob math o bethau – gleiniau, aeron, a hyd yn oed afalau bach-coch-cynnar. Ychydig arall a wisgent ar wahân i’r trôns cwta am eu canol a’r esgidiau amryfal am eu traed. Digon yw dywedyd bod ambell un yn rhy dew ac arall yn rhy denau i fedru fforddio gadael eu dillad gartref. Ond ni churwyd drwm erioed yng nghanolbarth yr Affrig â mwy o frwdfrydedd nag y chwythai pob un o’r rhai hyn ei gasŵc.

Dyma adlewyrchu’r wedd ymerodraethol ar ddiwylliant diwydiannol de Cymru, ond a oes yma awgrym o ‘gyntefigrwydd’ y Cymry eu hunain yn ogystal? Mae sylwadau Eric Lott am ystyr ddiwylliannol y minstrels yng nghymunedau diwydiannol America yn berthnasol i Gymru:

Underwritten by envy as well as repulsion, sympathetic identification as well as fear, the minstrel show continually transgressed the colour line even as it made possible the formation of a self-consciously white working class […].

Ond peth dros dro yw mabwysiadu’r diwylliant du. Yn William Jones mae’n cael ei olchi i ffwrdd mewn glaw Cymreig. Mae modd ei dynnu ‘o ran hwyl’. Mae’r act o wisgo fel dynion duon yn dangos mor effemeral a dibwys yw diwylliannau darostyngedig yn nhyb meistri trefedigaethol. Nid ydynt yn bethau o ddifrif, ac anghofir ‘pob gelyniaeth mewn chwerthin’.

Yr oedd hi’n dechrau glawio, a gwelai pawb na fwriadwyd inc coch yr Indiaid na blacléd y dynion duon ar gyfer tywydd gwlyb. Er hynny, canodd y ddau gôr hyn yn dda iawn, er bod blas go anfelys yng ngheg pob gŵr fel y rhedai’r glaw i lawr ei wyneb ac i’w safn, ac uchel oedd cymeradwyaeth y dorf pan ddyfarnodd y beirniaid y dynion duon yn orau. Edrychai’r Goliwogiaid yn ddig, ac anfodlon braidd oedd camau’r Prif Oliwog tuag at y Prif Ddyn Du i’w longyfarch. Ond pan dynnodd hwnnw wig y llall a’i gwisgo o ran hwyl, anghofiwyd pob gelyniaeth mewn chwerthin.

Roedd y daith ‘Jamaicaidd’ ar gefn JCB yng ngharnifal Aberaeron yn amlwg yn y traddodiad hwn. Ond mae rhai traddodiadau sy’n haeddu cael eu dirwyn i ben, eu rhoi o’r neilltu – eu golchi i ffwrdd.

Os oedd duo’r wyneb yn drosiad o’r broses o gymysgu diwylliannau ac o amwysedd cynyddol y ffiniau rhwng pobloedd gwahanol yng nghymoedd y de yn y 30au, beth yw arwyddocâd yr arfer heddiw? Mae’r ymosodiadau ar y Gymraeg yn berthnasol yn y cyd-destun yma. Mae ffiniau ein hunaniaethau dychmygedig wedi eu siglo yn sgil Brexit. Rydym yn byw trwy gyfnod brawychus o adwaith diwylliannol lle mae ymgais nid yn unig i ail sefydlu ffiniau llythrennol y genedl-wladwriaeth Brydeinig, ond hefyd i greu ffiniau yn y meddwl rhwng y ‘Prydeiniwr’ a’r ‘Arall’. Medd Sigmund Freud yn Civilization and its Discontents:

It is always possible to bind together a considerable number of people […] so long as there are other people left over to receive the manifestations of their aggressiveness. […] In this respect the Jewish people, scattered everywhere, have rendered most useful services to the civilizations of the countries that have been their hosts.

Fel y gwyddai Freud o brofiad, yr Iddew sydd wedi cynrychioli’r ‘Arall’ yn niwylliannau Cristnogol y Gorllewin. Mae gwahaniaethau amlwg iawn yn y driniaeth, ac yn eithafiaeth y casineb, y mae gwahannol leiafrifoedd wedi eu profi yn hanesyddol. Ond yr un yw’r patrwm strwythurol. Y Gymraeg yw’r Arall i’r Prydeindod adweithiol, monologiadd, unieithog sy’n cael ei greu a’i atgyfnerthu o’n cwmpas wedi Brexit. Gallwn ddisgwyl tipyn mwy o’r math o ymosodiadau a welwyd dros yr haf. Gwedd ar yr adwaith yma fu atgyfodiad yr arfer o dduo wynebau yng ngharnifal Aberaeron. Gan i’r Gymru fodern gael ei chreu ym mhair yr ymerodraeth, does dim syndod fod hiliaeth amrwd yn bodoli yn isymwybod diwylliannol gwlad y menyg gwynion hefyd. Ein cyfrifoldeb ni yw ei wrthsefyll. Rhaid i ni fod yn ofalus nad yw diwylliant Cymru’r dyfodol yn cael ei adeiladu drwy ddifrïo ac esgymuno’r Arall.

SB & DW

Seiliwyd rhan o’r blog ar erthygl yn Golwg, 7 Medi 2017 gan Simon Brooks o dan y teitl, ‘Hiliaeth yr haf’. Darllen pellach: Daniel G. Williams, Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales 1845-1945 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012) a Daniel G Williams, gol., Canu Caeth: Y Cymry a’r Affro-Americaniaid (Gomer, 2010).