Ynghylch Amlddiwylliannaeth

A ydyw’n wir ein bod i gyd – yn feirdd, yn gantorion neu yn ddinasyddion cyffredin – yn siarad mewn trosiadau? Dyna yw dadl yr ieithydd George Lakoff (1941 -) a’r athronydd Mark Johnson (1949 -) yn eu cyfrol ddylanwadol Metaphors We Live By (1980). Iddynt hwy, nid dull blodeuog o ysgrifennu yw’r trosiad. Yn hytrach, mae trosiadau yn gosod terfynau ar ein gallu i feddwl ac yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth a’n disgwyliadau o’r byd o’n cwmpas.

Mae yna ddau drosiad cyffredin sydd yn dylanwadu ar y drafodaeth gyfoes ar aml-ddiwylliannaeth. Y cyntaf yw’r ‘pair tawdd’, y ‘melting pot’. Dyma derm a fathwyd, yn ôl y sôn, gan y Seionydd o Loegr, Israel Zangwill (1864 – 1926) ac a enillodd ei blwy’ yn gyflym iawn yn yr Unol Daleithiau. Dyma’r ddelfryd gymathol, delfryd y ceisiai Zangwill ymwrthod â hi. O fewn y ‘pair tawdd’ mi fyddai pobloedd yn dod at ei gilydd, yn rhoi heibio eu priodweddau neilltuol, ac yn ymdoddi’n un diwylliant.

Mewn cyferbyniad â’r ‘pair tawdd’ arddelir y syniad o’r ‘fowlen salad’ gan ladmeryddion amlddiwylliannaeth heddiw. Nid cymysgu’r cyfan yn un mo goblygiadau’r trosiad yma. Yn hytrach, gall y cynhwysion gwahanol orwedd yn ddestlus a heddychlon y drws nesaf i’w gilydd mewn arwahanrwydd o fewn ‘bowlen’ y genedl-wladwriaeth.

Pa bynnag ddelwedd ddefnyddiwn ni, mae gan y syniad o Brydain fel rhyw bair neu fowlen y gall amrywiaeth o bobl fod yn gynhwysion ynddi hanes hir. (Ceisiais olrhain tipyn o’r hanes hwnnw, o Shakespeare i’n dyddiau ni, mewn darlith ddiweddar y gellir ei gwylio yma). Mae’n ddelfryd dra oddefgar o Brydeindod, ac yn wahanol iawn i ffantasïau bywydegol y mudiadau ffasgaidd. Ond mae’r Brydain ryddfrydol, gynhwysol honno wastad wedi ei chreu mewn gwrthgyferbyniad â’r ‘llwythau’ cul neilltuol sy’n cyfrannu iddi. Dibynna’r ‘salad’ Brydeinig ar gynhwysion penodol digyfnewid y lleiafrifoedd.

Mae’r ddau drosiad – y pair tawdd a’r fowlen salad – yn codi cwestiwn mwy sylfaenol. Beth yw gwead y pair neu’r fowlen ei hun? Os mai Prydeindod yw’r pair yna perthyn y Cymry a’r Albanwyr i’r cynhwysion, a rhwydd hynt iddynt gyd-fodoli gyda lleiafrifoedd eraill yn ôl y ddelfryd aml-ddiwylliannol, neu gael eu cymysgu’n un yn ôl y ddelfryd gymathol. Un ffordd neu’r llall, grwpiau ethnig ydynt yn cyfrannu at Brydeindod. Y pair Prydeinig sydd â’r gallu i ddal a chynnal lluosogedd. Cynhwysion yw’r pobloedd sy’n cyfrannu at y lluosogedd hwnnw – yn Gymry, yn Albanwyr, yn Iddewon, yn Bacistaniaid ac yn y blaen.

Dadl y cenedlaetholwr Cymreig yw mai Cymru yw’r ‘pair’ neu’r ‘fowlen’. Nid cynhywsyn mo’r Cymro. Nid grŵp ethnig, neu hil mo’r Cymry yn y weledigaeth yma, ond cenedl amddiwylliannol yn ei thermau ei hun, a all gynnwys Cymry Iddewig, Cymry Affricanaidd, y Sipsiwn Cymreig ac yn y blaen. Aml-ddiwylliannaeth, nid rhyw droi yn ôl at genedlaetholdeb cyntefig, yw’r her fwya’ sylfaenol i Brydeindod heddiw. Gall Cymreictod sydd wedi ei seilio ar linach neu ar ddiwylliant penodol gyfrannu’n ddigon hawdd i’r naratif Prydeinig cymathol. Yr hyn na all y naratif Prydeinig ddygymod ag ef yw hawl y lleiafrifoedd i fod yn aml-ddiwylliannol eu hunain.

Mae hon yn ddadl anodd i’w chyflwyno i’r rhyddfrydwr neu’r sosialydd Unoliaethol. Yn wir, onid yr anallu llwyr i ddeall hyn sy’n arwain at duedd gyson y wasg Lundeinig i gymharu twf yr SNP gyda thwf UKIP? Beth petasem yn trosi’r ddadl i gyd-destun gwahanol? Trafod y berthynas rhwng Serbiaid a Slofeniaid y mae Slavoj Žižek yn y dyfyniad isod, ond mae ei eiriau yn fy nharo i’n berthnasol i berthynas Cymru a Lloegr.

[W]e have this double logic. On the one hand [Serbs] claim that [Serbia is] fundamentally democratic – but, on the other, they deny this democratic potential to other ethnic groups of ex-Yugoslavia (you Slovenes want to be a state but in reality you are a primitive Alpine tribe). […] And this is often how racism functions today – at this disguised reflexive level. So we should be careful when people emphasize their democratic credentials: do these same people allow the Other to have the same credentials?

Os troswn ni’r dadansoddiad yma, yna Iwgoslafia yw Prydain, Serbia yw Lloegr, a Slofenia yw Cymru. Mae cenedlaetholwyr Prydeinig yn defnyddio’r un ‘rhesymeg ddwbl’, drwy bledio potensial democrataidd ac amlddiwylliannol Prydeindod, tra’n nacáu’r potensial hwnnw i’r lleiafrifoedd.

Fel cenedlaetholwyr Cymreig, rhaid i ni fynnu’n hawl i greu Cymriectod sifig ar ein telerau ein hunain. Bydded i ni ddefnyddio aml-ddiwylliannaeth dwyieithog Cymreig yn sail i drechu grym cymathol y pleidiau Unoliaethol. Gwrthodwn y ‘pair tawdd’. Y Gymru Amlddiwylliannol, ddwyieithog, rydd, fydd pair ein dadeni.

DW